Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
10 Ionawr 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(15 munud)
(20 munud)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr argyfwng yn y GIG y gaeaf hwn, yn sgil adroddiadau bod gwasanaethau wedi’u hymestyn i’r eithaf?
Gofyn i Brif Weinidog Cymru:
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Bil Ymadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru o ystyried na chyflwynwyd gwelliannau yn ymwneud â datganoli i'r Bil gan Lywodraeth y DU?
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyhoeddiad y bore yma o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Morlyn Llanw Bae Abertawe?
(5 munud)
(60 munud)
NDM6620 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 'Y Llanw’n troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Awst 2017.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 3 Hydref 2017.
Dogfennau
ategol
Llythyr
oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet – 3
Hydref 2017
Ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet at Gadeirydd y Pwyllgor – 2
Tachwedd 2017
(60 munud)
NDM6619 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi anallu y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru i ymdopi â'r lefel bresennol o alw gan fodurwyr.
2. Yn gresynu bod seilwaith ffyrdd is-safonol Cymru yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i economi Cymru.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol rwydwaith ffyrdd addas at y diben ac sy'n gweithredu'n briodol ar gyfer datblygiad tymor hir economi Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau ffyrdd yn y dyfodol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith ffyrdd dibynadwy ac effeithiol fel rhan o system drafnidiaeth amlfoddol integredig a chynaliadwy sy’n gallu cynnal economi a chymunedau Cymru.
2. Yn nodi bod y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol y mae Llywodraeth Cymru newydd ei gyhoeddi yn gosod allan rhaglen o welliannau i’r ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol fel rhan o gynllun buddsoddi cytbwys a chynaliadwy mewn trafnidiaeth.
3. Yn cydnabod cynllun Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen pum mlynedd o gyllid cyfalaf i drafnidiaeth i gefnogi buddsoddiad yn y seilwaith ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o fuddsoddiad y DU mewn seilwaith ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau yn y dyfodol.
Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu er mwyn cysylltu cymunedau Cymru yn well, gwella ansawdd y teithiau i gymudwyr a datblygu economi Cymru, fod angen buddsoddiad priodol ym mhob modd o deithio, nid ffyrdd yn unig, gan gynnwys rheilffyrdd, bysiau, teithio awyr a dros ddŵr.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at fwriad Llywodraeth Cymru i ymrwymo ei holl gyllideb fenthyca cyfalaf i adeiladu 'llwybr du' yr M4.
(60 munud)
NDM6621 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r 'angen blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi dyletswydd yn ei le i ddarparu llety i bob person digartref ni waeth pam eu bod yn ddigartref, fel rhan o'r broses o symud tuag at bolisi 'tai yn gyntaf'.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r effaith gadarnhaol y mae fframwaith statudol Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 wedi’i chael yn peri i’r system ddigartrefedd ganolbwyntio ar atal digartrefedd a’r sylfaen gref y mae hyn yn ei rhoi ar gyfer camau gweithredu pellach.
2. Yn cydnabod y pwysau cynyddol ar y system a phroblemau penodol i rai grwpiau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried diddymu'r 'angen blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi dyletswydd yn ei le i ddarparu cynnig o lety addas i bob person digartref ni waeth pam eu bod yn ddigartref, fel rhan o'r broses o symud tuag at ddull cynhwysfawr o geisio dod â digartrefedd i ben yng Nghymru, sy’n cynnwys polisi 'tai yn gyntaf'.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth cyn “fel rhan o'r broses o symud tuag at bolisi 'tai yn gyntaf'” a rhoi yn ei le:
"Yn nodi â phryder y cynnydd mewn digartrefedd yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn trawsbleidiol i gytuno ar strategaeth ddigartrefedd i gynnwys dod â chysgu ar y stryd i ben erbyn 2020,"
(30 munud)
NDM6615 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Galw am siarter ar gyfer urddas wrth ymddeol a diogelwch pobl hŷn
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Ionawr 2018